{"id":26,"date":"2025-06-10T06:47:39","date_gmt":"2025-06-10T06:47:39","guid":{"rendered":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/?page_id=26"},"modified":"2025-06-12T18:58:45","modified_gmt":"2025-06-12T18:58:45","slug":"dewi-prys-thomas-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/cy\/dewi-prys-thomas-2\/","title":{"rendered":"Dewi Prys&#8211;Thomas"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Bywgraffiad<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn dathlu dyn a gafodd ddylanwad dwys ar bensaern\u00efaeth a dylunio trefol yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd ddylanwad uniongyrchol trwy ei waith, ond efallai yn bwysicach cafodd ddylanwad anuniongyrchol fel dyluniwr, darlithydd a beirniad oedd wedi ei ymroddi i ddiwylliant a threftadaeth Cymru.&nbsp; Fo oedd yr \u2018Athro\u2019 Pensaern\u00efaeth cyntaf yn hanes Prifysgol Cymru ac, yn ei amser fel Pennaeth Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru, fe sefydlodd hefyd yr adran Dylunio Trefol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ganwyd Dewi-Prys Thomas yn Lerpwl yn 1916, i deulu Cymraeg i\u2019r carn. Bu iddo dreulio ei flynyddoedd cynnar mewn dinas llawn adeiladau gwych ond yn yr amser yma treuliodd ei amser yn llwyr o fewn milltir i\u2019w gartref.&nbsp; Er mai yma oedd ei fodolaeth corfforol, roedd ei gartref ysbrydol yn bell o Gilgwri, ac yn \u00f4l yn nhir mynyddog ei gyndadau.&nbsp; Bod yn arlunydd oedd ei freuddwyd gwreiddiol ond pan fu i\u2019r Athro Lionel Budden sylwi ar ei allu gyda bwrdd dylunio, rhoddwyd bwysau arno i astudio pensaern\u00efaeth ym Mhrifysgol Lerpwl.&nbsp; Graddiodd oddi yno yn 1939 gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn dilyn cyfnod hynod ddisglair. Yna aeth yn ei flaen i astudio dylunio trefol gyda William Holford.<\/p>\n\n\n\n<p>Am saith mlynedd yn dilyn hynny, bu\u2019n gweithio i benseiri yng Nghaerdydd, gan gynnwys T Alwyn Lloyd, lle bu iddo gyfrannu at ffurfio Cynllun Amlinellol De Cymru Alwyn Lloyd a Herbert Jackson.&nbsp; Yna, yn 1947, cafodd ei wahodd yn \u00f4l i Ysgol Bensaern\u00efaeth Lerpwl i ymuno a\u2019r staff, a dod yn uwch-ddarlithydd.&nbsp; Arhosodd yn Lerpwl hyd nes 1960, pan gafodd ei apwyntio\u2019n Bennaeth Ysgol Bensaern\u00efaeth Cymru, y swyddogaeth iddo gadw tan ei ymddeoliad yn 1981.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, sefydlodd hefyd bractis Pensaern\u00efaeth.&nbsp; Enillodd nifer o gomisiynau i ddylunio adeiladau newydd oedd yn nodedig am eu ffresni, manyldeb gofalus ac ymarferol, ac a oedd pob tro wedi eu rhwymo i\u2019w hamser a safle.&nbsp; Mae nifer o\u2019i waith pensaern\u00efol ysbrydoledig, ond eto ymarferol, yn parhau heddiw.&nbsp; Cafodd un enghraifft ym maestref Lerpwl ei enwi\u2019n \u2018House of the Year\u2019 yn 1960 gan y Women\u2019s Journal, a chael ei ddisgrifio gan Quentin Hughes fel \u2018&#8230;a gem of a house, lovingly detailed\u2019.&nbsp; Er y llwyddiant yma, arweiniodd ei ymrwymiad i ddyletswyddau academaidd at roi ei yrfa disglair i un ochr, gan ganolbwyntio yn hytrach ar gynhyrchu penseiri ar gyfer Cymru\u2019r dyfodol. Ar un llaw, gan feddwl am beth a allai fod wedi ei gyflawni, mae pensaern\u00efaeth Cymru ar ei cholled. Serch hynny, yn dilyn ei ymddeoliad, ac er gwaethaf dirywiad yn ei iechyd, fe arddangosodd Dewi-Prys Thomas ei ddewiniaeth unwaith eto gan ddylunio \u2018Y Pencadlys\u2019 ar gyfer Cyngor Gwynedd yn Caernarfon. Mae ansawdd oesol yr adeilad yma, ei ffraethineb a\u2019i ddynoliaeth, yn sefyll mewn clod i\u2019w allu creadigol.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel darlithydd ac athro, roedd dewi-Prys Thomas yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr o bob rhan o\u2019r byd.&nbsp; Yn naturiol, roedd yn ddwy-ieithog, gyda meistrolaeth gywrain o\u2019r ddwy iaith.&nbsp; Roedd yn gyfathrebwr bwerus, yn drylwyr yn ei waith ymchwil, yn graff a dylanwadol mewn dadl, ac yn gyflwynwr dramatig ar y naw.&nbsp; Er hynny, roedd pob amser yn amyneddgar tra\u2019n gwrando ac annog eraill trwy dynnu allan y gorau o beth oedd yn cael ei gyflwyno iddo gan ddatgelu beth oedd yn aml yn ddiymwybod i\u2019 berchennog y gwaith tan y foment honno!<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd ei ysgolheictod yn cael ei werthfawrogi gan gynulleidfa eang gan ei fod yn groesgadwr amgylcheddol, ac yn ymddangos yn rheolaidd i gynrychioli cyrff fel Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Enillodd hefyd barch enfawr fel Comisiynwr ar gyfer Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac aelod o Orsedd y Beirdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Dewi-Prys Thomas yn ddyn gyda gweledigaeth, ac fe gafodd ei ysbrydoli yn ifanc gan waith y bardd Ellis Wynne.&nbsp; Ysgrifennodd Wynne yn \u2018Gweledigaethau\u2019r Bardd Cwsg\u2019 am ei siwrnai i ben mynydd, gyda&nbsp;<em>\u2018&#8230;ysbienddrych i helpu \u2018ngolwg egwan i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr.\u2019<\/em>&nbsp; Roedd gan Dewi-Prys Thomas yr un gallu rhyfeddol i ddadansoddi digwyddiadau pell ac o amser gwahanol o fewn cyd-destun cyfoes, gan ddatgelu arwyddoc\u00e2d materion o bwys a oedd cynt yn ddirgel.&nbsp; Wrth iddo nes\u00e1u at ddiwedd ei yrfa (bu iddo farw yn 1985), fe ysgrifennodd am ei astudiaeth ei hun o Gymru, trwy ysbienddrych pensaern\u00efaeth dychmygol, a oedd yn datgelu golwg o Gymru a oedd yn ddisglair yn ei Treftadaeth, eu mynyddoedd, cymoedd, iaith wyrthiol a chwerthin ei plant, yn ddisglair yn etifeddiaeth eu trefi a\u2019i pentrefi.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer cynifer o bobl, mae Dewi-Prys Thomas wedi, ac yn parhau i fod yn gynghorwr ac yn gynddelw.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"250\" height=\"301\" src=\"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Dewi.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-23\"\/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Englyn<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color has-link-color wp-elements-eb44f5b6d7bc5baab98cff883028dbd8\" style=\"color:#dd8c0b\">Fe erys yng ngwaed ei Bencadlys&nbsp;<br>Y dewin-prin, Dewi-Prys.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Arfon Hughes<\/em><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image alignright size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"320\" height=\"433\" src=\"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/7489-pencadlys-street.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-24\" srcset=\"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/7489-pencadlys-street.jpg 320w, https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/7489-pencadlys-street-222x300.jpg 222w\" sizes=\"auto, (max-width: 320px) 100vw, 320px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bywgraffiad Mae Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas yn dathlu dyn a gafodd ddylanwad dwys ar bensaern\u00efaeth a dylunio trefol yng Nghymru. Cafodd ddylanwad uniongyrchol trwy ei waith, ond efallai yn bwysicach cafodd ddylanwad anuniongyrchol fel dyluniwr, darlithydd a beirniad oedd wedi ei ymroddi i ddiwylliant a threftadaeth Cymru.&nbsp; Fo oedd yr \u2018Athro\u2019 Pensaern\u00efaeth cyntaf yn hanes Prifysgol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-26","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/26","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=26"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/26\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":333,"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/26\/revisions\/333"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.dewi-prysthomas.org\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=26"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}